Parks and Recreation

Parks and Recreation
Enghraifft o'r canlynolcyfres deledu Edit this on Wikidata
CrëwrGreg Daniels, Michael Schur Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dechreuwyd9 Ebrill 2009 Edit this on Wikidata
Daeth i ben24 Chwefror 2015 Edit this on Wikidata
Genrerhaglen ffug-ddogfen, comedi sefyllfa, dychan gwleidyddol, cyfres deledu comig Edit this on Wikidata
CymeriadauAndy Dwyer, Ann Perkins, April Ludgate, Ben Wyatt, Chris Traeger, Craig Middlebrooks, Donna Meagle, Jerry Gergich, Leslie Knope, Mark Brendanawicz, Ron Swanson, Tom Haverford, Li'l Sebastian, Shauna Malwae-Tweep Edit this on Wikidata
Yn cynnwysParks and Recreation, season 1, Parks and Recreation, season 2, Parks and Recreation, season 3, Parks and Recreation, season 4, Parks and Recreation, season 5, Parks and Recreation, season 6, Parks and Recreation, season 7 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithPawnee Edit this on Wikidata
Hyd22 munud Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrAmy Poehler Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuUniversal Television Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGaby Moreno Edit this on Wikidata
DosbarthyddNBCUniversal Syndication Studios, Netflix, Hulu, Crave Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata[1]
Gwefanhttp://www.nbc.com/parks-and-recreation Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfres deledu sitcom dychan gwleidyddol Americanaidd yw Parks and Recreation sy'n ddychan ar wleidyddiaeth. Crëwyd gan Greg Daniels a Michael Schur. Darlledwyd y gyfres ar NBC rhwng 9 Ebrill 2009 a 24 Chwefror 2015, dros 125 o episodau a saith cyfres.[2][3][4][5] Seren y gyfres yw Amy Poehler fel Leslie Knope, biwrocrat lefel ganol bywiog yn Adran Parciau Pawnee, tref ffuglennol yn Indiana. Mae'r cast ensemble yn cynnwys Rashida Jones fel Ann Perkins, Paul Schneider fel Mark Brendanawicz, Aziz Ansari fel Tom Haverford, Nick Offerman fel Ron Swanson, Aubrey Plaza fel April Ludgate, Chris Pratt fel Andy Dwyer, Adam Scott fel Ben Wyatt, Rob Lowe fel Chris Traeger, Jim O'Heir fel Jerry Gergich, Retta fel Donna Meagle, a Billy Eichner fel Craig Middlebrooks.

Er mwyn ysgrifennu'r gyfres, ymchwiliodd yr ysgrifenwyr i wleidyddiaeth leol Califfornia, ac ymgynghoron nhw â chynllunwyr trefol a swyddogion etholedig.[6] Aeth Leslie Knope trwy newidiadau mawr ar ôl y tymor cyntaf, mewn ymateb i adborth y gynulleidfa bod y cymeriad yn ymddangos yn annealladwy ac yn "ditzy". Ychwanegodd y staff ysgrifennu ddigwyddiadau cyfredol yn yr episodau, er enghraifft roedd cau'r llywodraeth yn Pawnee wedi'i ysbrydoli gan argyfwng ariannol byd-eang bywyd go iawn 2007-2008. Mae gwleidyddion go iawn wedi cael cameos mewn rhai episodau, er enghraifft y Seneddwr John McCain, yr Is-lywydd Joe Biden, a’r Brif Foneddiges Michelle Obama.

Darlledwyd Parks and Recreation ar NBC yn ystod ei floc amser oriau brig ar nos Iau. Derbyniodd y rhaglen adolygiadau cymysg yn ystod ei chyfres gyntaf (adolygiadau yn debyg i The Office, sitcom arall a gynhyrchwyd gan Daniels a Schur), ond, ar ôl ail-ymdrin â’i naws a’i fformat, cafodd yr ail gyfres a’r cyfresi dilynol ganmoliaeth eang. Trwy gydol ei rediad, derbyniodd Parks and Recreation sawl gwobr ac enwebiad, gan gynnwys 14 enwebiad Gwobr Emmy, cwpl o enwebiadau a buddugoliaethau Golden Globe, a buddugoliaeth Gwobr y Television Critics Association. Enwyd Parks and Recreation fel cyfres teledu gorau'r flwyddyn yn rhestr TIME yn 2012.[7]

  1. Hulu. dyddiad cyrchiad: 13 Mai 2020.
  2. Eng, Joyce (19 Ionawr 2014). "Parks and Recreation (essentially) renewed, Community looking 'strong'". Today's News: Our Take. TV Guide. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2014. Cyrchwyd 28 Ebrill 2014.
  3. Fienberg, Daniel (19 Ionawr 2014). "Press Tour: NBC execs say 'Parks and Recreation' will get Season 7". The Fien Print. HitFix. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2014. Cyrchwyd 28 Ebrill 2014.
  4. Bibel, Sara (19 Mawrth 2014). "'Chicago Fire', 'Chicago P.D.' & 'Grimm' Renewed; NBC Confirms Renewals of 'Parks & Recreation' & 'Celebrity Apprentice'". TV by the Numbers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mawrth 2014. Cyrchwyd 20 Mawrth 2014.
  5. Kondolojy, Amanda (1 Rhagfyr 2014). "'Parks and Recreation' Final Season to Premiere Tuesday, January 13th". TV by the Numbers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2014.
  6. "The City Planner Behind Parks and Rec". Engaging Local Government Leaders (yn Saesneg). 6 Hydref 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Hydref 2017. Cyrchwyd 25 Hydref 2017.
  7. Poniewozik, James (4 Rhagfyr 2012). "Top 10 TV Series – 1. Parks and Recreation". Time. http://entertainment.time.com/2012/12/04/top-10-arts-lists/slide/parks-and-recreation/. Adalwyd 8 Rhagfyr 2012.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search